Mae Llynges Iwerddon wedi achub 225 yn rhagor o bobol wrth iddyn nhw geisio croesi Môr y Canoldir.
Roedd 12 o blant ymhlith y criw diweddaraf o fudwyr aeth i drafferthion oddi ar arfordir Libya.
Cafodd llong Le Niamh ei hanfon i gymryd rhan yn yr ymdrechion achub i’r gogledd-ddwyrain o Tripoli nos Sadwrn.
Cymerodd hi naw awr i achub 107 o ddynion, menywod a phlant oddi ar un llong, a 118 o bobol oddi ar long arall.
Maen nhw i gyd yn derbyn bwyd, diod a gofal meddygol ar y llong Le Niamh.
Mae Canolfan Cydlynu Achub Morwrol yr Eidal yn cydlynu’r gweithgarwch yno.