Mae disgwyl oedi sylweddol ar drenau yng Nghymru heddiw yn sgil streic gan weithwyr First Great Western sy’n aelodau o undeb RMT, oherwydd ffrae tros gyflwyno trenau newydd.

Mae’r gweithwyr wedi cerdded allan o’u gwaith am 24 awr o ganol nos.

Maen nhw’n gofidio y bydd swyddi gwarchodwyr trenau a swyddogion ceirt bwyd yn y fantol wrth i drenau Hitachi Inter City Express gael eu cyflwyno.

Mae First Great Western yn dweud y bydd eu hamserlen newydd yn cael ei thorri o 30%.

Oherwydd y streic, fe fydd un trên bob awr rhwng Paddington, Bryste, de Cymru a de orllewin Lloegr, ac fe fydd trenau rhwng Portsmouth a Chaerdydd ond yn teithio rhwng Salisbury a Swindon.

Mae First Great Western yn dweud y bydd y gwasanaeth newydd yn cynnig rhagor o seddi, teithiau byrrach a mwy o ddewis o deithiau i deithwyr.