Y ffoaduriaid yn anelu am dir mawr Groeg
Mae chwech o bobol oedd yn ffoi o Syria, a phlentyn yn eu plith, wedi boddi oddi ar arfordir Twrci, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd diogelwch ar un o ynysoedd Groeg.

Mae’r marwolaethau diweddara’n dangos y risg y mae ffoaduriaid yn fodlon eu cymryd er mwyn cyrraedd Ewrop.

Mae tri ffoadur arall wedi goroesi am oriau wrth ddal gafael yn y cwch yr oedden nhw’n teithio ynddo, cyn cael eu hachub gan ddeifwyr. Roedd y rheiny fu farw yn ceisio croesi’r Môr Aegeaidd yn y modd safaf, gan anelu am ynys Kos, sydd ddim ond 2.5 milltir o dir mawr Twrci.

Maer deifwyr o Dwrci wedi llwyddo i achub dau ddyn ac un plentyn o’r dwr ger y cwch.