Mae Asda wedi cael y chwarter gwaetha’ erioed ers sefydlu’r cwmni 50 mlynedd yn ôl, wrth i’w elw gwympo 4.7% yn y tri mis diwetha’.

Dyma’r pedwerydd chwarter o’r bron i’r archfarchnad, sydd wedi’i chofrestru yn Leeds, ond sy’n rhan o gwmni Walmart yn America; ac mae’n dod wedi i werthiant ostwng 3.9% yn y cyfnod blaenorol.

Mae’r ystadegau, am yr 11 wythnos hyd at Fehefin 30, yn dod wrth i nifer o archfarchnadoedd ei chael hi’n anodd yn wyneb y ddwy gadwyn Aldi a Lidl.

“Rydyn ni wedi taro’r gwaelod, ein man isaf,” meddai Prif Weithredwr Asda, Andy Clarke. “Mae ganddon ni lygedyn o obaith wrth i ni symud i mewn i’r chwarter nesa’.”