Mae beth bynnag saith o bobol gyffredin, a dau filwr Wcrain, wedi’u lladd yn nwyrain y wlad, wrth i’r rhyfela rhwng y ddwy ochr waethygu.

Mae’r ymladd rhwng y gwrthryfelwyr sydd â chefnogaeth Rwsia, a lluoedd yr Wcrain, yn ardal ddiwydiannol y wlad.

Ond, er yr addewidion i roi’r gorau i ymladd ac i symud arfau trwm oddi ar y ffrynt-lein, mae tua 6,400 o bobol wedi marw ers Ebrill 2014, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Mae gweinidog tramor Rwsia, Sergey Lavrov, wedi cyhuddo llywodraeth yr Wcrain yn Kiev o chwalu’r trafodaethau rhyngddyn nhw, y gwrthryfelwyr a’r cymdeithasau sydd i fod i gytuno ar sut i ddad-arfogi.

Fe allai’r sefyllfa bresennol arwain at lawer mwy o ymladd, yn ôl Sergey Lavrov.