Mae rhan o gorff wedi’i olchi i’r lan ar draeth yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Fe ddaeth pysgotwr o hyd i’r gweddillion yn agos at wal fôr yn Bispham ar arfordir Swydd Gaerhirfryn.

Dydi’r heddlu, hyd ya, ddim wedi gallu cadarnhau pwy ydi’r corff, na datgan yn gyhoeddus p’un ai dyn ynteu dynes oedd hi.

Fe gafodd swyddogion eu galw i’r prom yn Bispham, rhyw filltir i’r gogledd o Blackpool, fore dydd Sul.

Roedd hi’n ymddangos fel petai’r gweddillion wedi bod yn y dwr am beth amser, a barnu yn ôl eu cyflwr.

Mae ymchwiliad ar y gweill.