Mae beth bynnag 44 o bobol wedi’u lladd mewn cyfres o ffrwydriadau mewn warws yn ninas Tianjin yn China, yn ol adroddiadau.

Mae’r sianel deledu Beijing News, sy’n cael ei rhedeg gan y wladwriaeth, wedi cyhoeddi ar ei gwefan fod rhwng 300 a 400 o bobol wedi’u cludo i ysbytai yn y ddinas, i’r dwyrain o Beijing.

Roedd y ffrwydriadau wedi malu ffenestri’n deilchion ac wedi chwythu drysau oddi ar adeiladau.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad gwreiddiol mewn cynhwysydd mewn warws lle’r oedd deunyddiau peryglus yn cael eu cadw, meddai’r heddlu.

Roedd Swyddfa Genedlaethol Daeargrynfeydd wedi cofnodi dau ffrwydriad cyn hanner nos neithiwr – y cynta’ yn gyfwerth i ffrwydriad tair tunnell o TNT, a’r ail yr un fath â ffrwydro 21 tunnell o’r cemegyn.