Mae o leiaf dau o blant wedi marw a nifer o bobl eraill ar goll ar ôl i gwch droi drosodd ar Lyn Fictoria yn Kenya.
Roedd y cwch yn cludo 200 o deithwyr pan fu mewn gwrthdrawiad a chwch bysgota ar y llyn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y cwch yn teithio i Ynys Kiwa i Ynys Remba pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 2 y bore (amser lleol).
Mae cyrff dau o blant wedi cael eu tynnu o’r dŵr hyd yn hyn.