Jeremy Corbyn
Mae’r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi awgrymu y dylai Tony Blair gael ei orfodi i sefyll ei brawf am droseddau rhyfel yn dilyn y rhyfel yn Irac.

Dywedodd Corbyn fod y rhyfel yn 2003 yn “ryfel anghyfreithlon” ac y dylai’r unigolion “a wnaeth y penderfyniadau yn ymwneud a hynny” fynd o flaen eu gwell.

Fe fydd ei sylwadau i raglen Newsnight ar BBC2, yn cynyddu’r tensiynau ymhellach yn y ras am arweinyddiaeth y blaid.