Papur lleol y Journal and Courier yn rhoi sylw i'r saethu
Mae achos arall difrifol o saethu wedi bod yn yr Unol Daleithiau, ar y diwrnod pan fynegodd Barack Obama ei siom am fethu â thynhau cyfreithiau tros reoli gynnau.

Fe gododd dyn canol oed ar ei draed mewn sinema yn Lafayette, Louisana, a saethu at y 100 o bobol oedd yno – fe laddodd ddau cyn ei saethu ei hun.

Mae nifer o bobol wedi cael eu hanafu hefyd, rhai’n ddifrifol iawn.

Gwaeth na therfysgaeth meddai Obama

Ddoe fe ddywedodd yr Arlywydd Obama wrth y BBC mai un o’i siomedigaethau mawr yn ei swydd oedd methu â chryfhau cyfreithiau tros yr hawl i berchnogi gynnau.

Yr Unol Daleithiau oedd yr unig wlad ddatblygedig oedd wedi methu â rheoli’r broblem, meddai, ar ôl cyfres o achosion o saethu.

“Os edrychwn ar nifer yr Americaniaid sydd wedi eu lladd ers 9/11 gan derfysgaeth, mae’n llai na 100. Os edrychwch ar y nifer sydd wedi cael eu lladd gan drais gwn, mae’n filoedd,” meddai.

Fe ddaeth yr ymosodiad yn Louisiana ychydig ddyddiau wedi i ddyn o’r enw James Holmes gael ei garcharu am oes am ymosodiad tebyg mewn sinema yn Denver union dair blynedd yn ôl.