Senedd Gwlad Groeg
Mae Senedd Gwlad Groeg wedi dechrau dadl frys ynglŷn ag ail rownd o amodau gan gredydwyr rhyngwladol am becyn o gymorth ariannol newydd i achub economi’r wlad – ac mae pryderon y gall y bleidlais beryglu’r llywodraeth glymblaid.

Yn ddiweddarach heddiw, bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar ddiwygiadau barnwrol a bancio. Mae’r amodau yn rhan o’r gofynion gan wledydd parth yr ewro ar gyfer trydydd pecyn ariannol i achub economi Gwlad Groeg sydd yn werth £59.5 biliwn.

Mae’r Prif Weinidog Alexis Tsipras eisoes yn dibynnu ar gefnogaeth gwrthbleidiau i ennill mwyafrif seneddol wrth i fwy a mwy o ASau ei blaid asgell chwith  Syriza, anghytuno a’r telerau.

Mae Alexis Tsipras eisoes wedi rhoi mesurau llymder llym iawn ar waith y mis hwn ac mae angen i’r trafodaethau gyda gwledydd parth yr Ewro ddod i ben cyn Awst 20, pryd y mae’n rhaid i Wlad Groeg ad-dalu benthyciadau gwerth mwy na £2.1 biliwn i Fanc Canolog Ewrop (ECB).