Harper Lee
Er bod torfeydd o bobol wedi casglu ym Monroeville, Alabama, ac ar draws y byd, yn gynnar y bore yma er mwyn cael gafael ar gopi o nofel newydd Harper Lee, dyw un beirniad Cymraeg amlwg ddim yn siŵr amdani.
Yn ôl Bethan Mair, golygydd llawrydd sydd wedi gweithio ar gyfrolau amlwg yn Gymraeg, fe allai Go Set a Watchman wneud drwg i enw’r awdur, 55 mlynedd ers cyhoeddi ei hunig nofel arall, To Kill a Mockingbird.
Roedd honno wedi ennill gwobr Pulitzer am ffuglen yn yr Unol Daleithiau, gan werthu mwy na 30 miliwn o gopïau ar draws y byd, ond roedd Go Set a Watchman wedi ei sgrifennu yn 1957, dair blynedd cyn hynny.
Mae’r diddordeb yn anferth – agorodd Watersones Caerfyrddin ei drysau’n gynnar, er enghraifft, am 08:30 y bore yma, ac roedd pobol yn ciwio y tu allan bryd hynny, a nifer wedi archebu’r llyfr o flaen llaw.
‘Teimlo’n anghyfforddus’
Roedd Bethan Mair yn teimlo’n “anghyfforddus”, meddai, ynglŷn â chyhoeddi’r nofel eleni am fod bwlch mawr wedi bod ers iddi gael ei hysgrifennu.
Yn dilyn cyngor gan ei golygyddion, penderfynodd beidio â chyhoeddi’r gwaith ar y pryd a mynd ati i sgrifennu To Kill a Mockingbird am fywydau cynharach rhai o’r un cymeriadau.
Mae’r nofel newydd yn digwydd 20 mlynedd ar ôl honno ac mae arwr gwrth-hiliaeth y nofel gynta’. Atticus Finch, wedi troi’n fwy adweithiol.
“Mae’n amlwg fod diffygion yn y deipysgrif wreiddiol,” meddai Bethan Mair, sy’n poeni nad oedd yr awdures 89 oed “o gwmpas ei phethau” pan ddaeth yr asiantaeth gyhoeddi o hyd i deipysgrif Go Set a Watchman ym mis Chwefror eleni.
‘Yn groes i’r graen’
Ei chwaer, y gyfreithwraig Alice Lee, oedd yn arfer gofalu am fuddiannau’r awdures, ond bu hi farw ym mis Tachwedd 2014 – pryder Bethan Mair yw bod yr asiantaeth wedi gwasgu ar Harper Lee am ail nofel a’i bod hi, heb gefnogaeth ei chwaer, wedi cytuno yn groes i’w greddf.
Ac mae’n ei chymharu hi i un o gymeriadau’r To Kill a Mockingbird, sy’n gorfod gweithredu yn rhannol yn erbyn ei ewyllys.
“Hi yw Boo Radley y sefyllfa yma”, meddai Bethan Mair, “wedi’i llusgo allan a’i gorfodi i wneud rhywbeth nad oedd hi eisiau”.
Gwerthwr gorau
Er gwaetha’r amheuon ac ymateb cymysg cynnar gan adolygwyr, mae llyfrwerthwyr ar draws y byd yn rhagweld mai Go Set a Watchman fydd y gwerthwr gorau eleni.
“Mae hynny i’w ddisgwyl”, meddai Bethan Mair, “am fod cyhoeddi ail nofel awdures mor llwyddiannus yn ddigwyddiad ynddo’i hun”.
“Yn union fel Yn ôl i Leifior gan Islwyn Ffowc Elis, bydd pobol yn prynu Go Set a Watchman o ran chwilfrydedd”, ychwanegodd Bethan Mair. “Ond does gen i ddim disgwyliadau y bydd hi gystal â’r gyntaf.”