Alexis Tsipras, prif weinidog Gwlad Groeg (llun: PA)
Mae’n ymddangos mai heddiw fydd y cyfle olaf am gytundeb ariannol rhwng Gwlad Groeg a gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd trafodaethau pellach a thyngedfennol rhwng gwledydd parth yr Ewro ar ôl methiant i gyrraedd cytundeb ddoe wrth i Wlad Groeg gynnig pecyn o doriadau ariannol yn gyfnewid am fenthyciad.

Roedd y trafodaethau heddiw i fod i gael eu dilyn gan uwch-gynhadledd lawn o holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd, ond mewn datblygiad annisgwyl, cafwyd cyhoeddiad y bore yma fod y cyfarfod hwnnw wedi’i ganslo.

Roedd prif weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras, wedi cynnig codiadau mewn trethi a thoriadau mewn gwario yn gyfnewid am fenthyciad o 53.5 biliwn ewro i osgoi methdaliad y wlad a chael ei gorfodi i adael yr ewro.

‘Diffyg ymddiriedaeth’

Ond rhybuddiodd llywydd gweinidogion cyllid gwledydd yr Ewro, Jeroen Dijsselbloem o’r Iseldiroedd, na fydd cytundeb yn hawdd oherwydd diffyg ymddiriedaeth gwledydd eraill yn llywodraeth Syriza Gwlad Groeg.

“A ellir ymddiried yn llywodraeth Gwlad Groed i wneud yr hyn maen nhw’n ei addo’i gyflawni yn yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd nesaf?” gofynnodd.

Mae’r Almaen wedi mynegi amheuon tebyg, ac mae adroddiadau eu bod yn ystyried o syniad o gynnig gwthio Gwlad Groeg allan o barth yr Ewro dros dro am gyfnod o bum mlynedd.