Mynwent y lladdedigion yn Srebrenica (llun: PA)
Fe fu’n rhaid i brif weinidog Serbia wynebu cynddaredd y dorf yn Srebrenica heddiw mewn seremoni i goffáu’r hil-laddiad yno 20 mlynedd yn ôl.

Cafodd esgid, poteli dŵr a cherrig eu taflu at Aleksandar Vucic, gan ei daro yn ei wyneb a thorri ei sbectol, wrth i’r dorf o ddegau o filoedd o bobl ddangos eu dicter tuag ato.

Ei gyd-wladwyr oedd yn gyfrifol am yr hil-laddiad gwaethaf yn Ewrop ers yr Holocost yn 1995, pryd y cafodd 8,000 o Fwslimiaid eu llofruddio yn Srebrenica, yn nwyrain Bosnia.

Roedd yno i gynrychioli ei wlad, ac er iddo fod yn genedlaetholwr eithafol yn y gorffennol, mae’n ymddangos mai ei fwriad oedd ceisio dangos awydd am gymod.

Ond wrth iddo fynd i mewn i’r fynwent i osod blodau, roedd miloedd yn bwio a chwibanu, cyn i bethau gael eu taflu ato.