Mae ymgyrchwyr yn rhybuddio y byddai codi miloedd o dai ym Mhowys yn niweidiol i ddyfodol y Gymraeg yn y sir.
Un o argymhellion cynllun datblygu lleol y sir, sy’n mynd trwy gyfnod o ymgynghori ar hyn o bryd, yw neilltuo tir ar gyfer 6,017 o dai newydd.
Mae’r nifer yn llawer gormod yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a fu’n cyfarfod i graffu ar y cynllun heddiw.
Ymysg y newidiadau i’r y mae’r Gymdeithas yn galw amdanynt mae:
- dosbarthiad tai sy’n adlewyrchu anghenion lleol
- lleihau’r cyfanswm o dai
- comisiynu ymchwil annibynnol i effeithiau datblygiadau diweddar ar ardaloedd Cymreiciaf y sir, ac
- asesiadau iaith ar yr holl ddatblygiadau newydd yn yr ardaloedd hynny.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, meddai Elwyn Vaughan ar ran Cangen Maldwyn o Gymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni wedi gweld dirywiad sylweddol yn y Gymraeg ym Mhowys dros yr 20 mlynedd diwethaf. Gyda’r Eisteddfod ar ei ffordd, dyma gyfle i’r Cyngor Sir greu pecyn cynhwysfawr o blaid y Gymraeg bydd yn adlewyrchu pob elfen o Gymdeithas – y cwestiwn yw, a wnân nhw weithredu?
“Rydyn ni’n falch eu bod nhw’n cydnabod maint y bygythiad i gymunedau Cymraeg. Nawr, mae angen i gynllun datblygu’r cyngor sir adlewyrchu’r angen lleol, a bod yn arf i atgyfnerthu’r Gymraeg yn hytrach na’i thanseilio. Dyna pam ei fod yn bwysig bod pobl yn lleisio’u barn am y cynllun – a gyrru neges glir i’r Cyngor bod rhaid cryfhau’r ffordd mae’n ystyried y Gymraeg.”