Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli teuluoedd y bobol fu farw yn namwain awyren Germanwings wedi dweud bod cynnig o iawndal gan y cwmni hedfan yn “annheg” a bydd yn achosi rhwyg.

Bu farw pob un o’r 150 o deithwyr ar yr awyren A320 Airbus, gan gynnwys tri Phrydeiniwr, wrth hedfan o Barcelona i Dusseldorf ar 24 Mawrth.

Cafodd cynigion o iawndal o £70,880 eu gwneud i deuluoedd y dioddefwyr, ond mae’r cyfreithiwr James Healy-Pratt wedi dweud bod rhai teuluoedd wedi cael cynnig mwy o arian ar sail eu cenedlaetholdeb.

“Mae’n gwbl annheg. Mae disgwyl i’r teuluoedd wrthod y cynnig,” meddai.

Achosion llys

Mae ymchwilwyr i’r ddamwain yn credu bod y cyd-beilot Andreas Lubitz, a oedd yn dioddef o iselder, wedi llywio’r awyren A320 yn fwriadol i ochr mynydd.

Yn ôl y cyfreithiwr, fe all achosion gael eu dwyn yn erbyn y cwmni hedfan Lufthansa mewn llysoedd yn yr Unol Daleithiau, gan fod Andreas Lubitz wedi derbyn hyfforddiant yn Arizona.