Safle'r ddamwain yn Medan, Indonesia
Mae o leiaf 141 o bobol wedi marw ar ôl i awyren y llu awyr blymio i’r ddaear mewn dinas yn Indonesia ddoe.

Dywedodd llefarydd o heddlu Sumatra bod y cyrff wedi cael eu darganfod yn y

rwbel ar ôl i’r awyren daro i mewn i floc o fflatiau a siopau ym Medan.

Roedd 122 o bobol ar fwrdd yr awyren, gan gynnwys gweithwyr milwrol a’u teuluoedd.

Ddau funud ar ôl i’r awyren gychwyn hedfan, roedd llygad dystion wedi gweld mwg a fflamau yn dod ohoni cyn iddi gyrraedd y ddaear.

Roedd y peilot wedi rhybuddio rheolwyr traffig awyr bod problemau gyda’r injan a bod angen i’r awyren droi nôl a dychwelyd i’r maes awyr. Roedd yr awyren wedi dechrau troi am y maes awyr pan ddigwyddodd y ddamwain.