Carl Sargeant
Fe fydd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru yn bresennol mewn Cynhadledd Hinsawdd ryngwladol yn Lyon, Ffrainc heddiw gyda’r bwriad o rannu arferion da gyda gwledydd eraill.

Mae’r gynhadledd ddeuddydd yn cael ei hystyried fel digwyddiad pwysig cyn i wledydd y Cenhedloedd Unedig ddod ynghyd i lofnodi cytundeb ar y newid yn yr hinsawdd ym Mharis fis Rhagfyr.

Bydd Carl Sargeant yn tynnu sylw at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – deddf sy’n gosod fframwaith cyfreithiol i’r Cenhedloedd Unedig ganolbwyntio ar y newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy ac amrywiaeth fiolegol.

Cyn y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog: “Rwyf wrth fy modd bod Cymru’n un o’r gwledydd cyntaf i lofnodi’r Memorandwm Dealltwriaeth ar Arweinyddiaeth Is-genedlaethol Hinsawdd Byd-eang.

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod datblygu cynaliadwy fel prif egwyddor trefniadol i sector cyhoeddus Cymru.

“Mae’n nodi amcanion uchelgeisiol a hirdymor ar gyfer Cymru iachach, lewyrchus, gydnerth, a mwy cyfartal wedi ei seilio ar egwyddorion datblygu cynaliadwy ac wedi’u cydgysylltu â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.”