Mae 500 o bobol wedi cael eu hanafu – wyth yn ddifrifol – yn dilyn tân mewn parc dŵr yn Taiwan.

Dechreuodd y tân ar lwyfan cerddoriaeth yn ystod parti yn Formosa yn ninas New Taipei, wrth i bowdr ffrwydro o flaen tua 1,000 o bobol.

Cafodd y rhan fwyaf anafiadau i’w coesau a’u traed.

Cafodd un ferch 18 oed losgiadau i 90% o’i chorff.

Mae llywodraeth y wlad bellach wedi gwahardd unrhyw barti sy’n defnyddio powdr fflamadwy.

Mae dau o weithwyr y parc, trefnydd y parti a dau dechnegydd yn cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o esgeulustod proffesiynol oedd wedi arwain at anafiadau a pheryglu’r cyhoedd.

Mae ymchwiliad ar y gweill i’r hyn oedd wedi achosi’r tân.