Mae Heddlu’r De wedi apelio am dystion yn dilyn marwolaeth dyn 42 oed wrth geisio achub dau o blant oddi ar arfordir Penrhyn Gŵyr.

Aeth y plant i drafferthion yn y dŵr, a chafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2.10 brynhawn ddoe.

Cafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys, lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd dau o bobol eraill eu trin am anafiadau yn yr ysbyty.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.