Mae Senedd Gwlad Groeg wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm ar Orffennaf 5 i benderfynu a fyddan nhw’n derbyn cynigion credydwyr i achub y wlad yn ariannol.

Cafodd y refferendwm ei gynnig gan y Prif Weinidog Alexis Tsipras, sy’n gwrthwynebu rhagor o doriadau mewn ymgais i ddod â sefydlogrwydd i’r wlad.

Mae aelodau parth yr Ewro wedi beirniadu’r penderfyniad i gynnal refferendwm, gan wrthod cais i ymestyn y rhaglen ariannol i’w hachub y tu hwnt i Fehefin 30.

Mae’n bosib na fydd modd i Wlad Groeg ad-dalu 1.6 biliwn Ewro (£1.1 biliwn) i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol ar y diwrnod hwnnw.

Fe allai hynny arwain at adael parth yr Ewro, gan sicrhau dyfodol ariannol ansicr.

Cafodd cynnig Tsipras ei dderbyn gan o leiaf 179 o aelodau seneddol y wlad.