Baner cydffederasiwn America
Mae baner ddadleuol Cydffederasiwn America o flaen senedd-dy De Carolina yn Charleston wedi cael ei thynnu i lawr.

Cafodd dynes ddu ei dal hanner ffordd i fyny’r polyn pan gafodd orchymyn gan heddlu’r dalaith i ddod i lawr. Gwrthododd, a daliodd i ddringo a thynnu’r faner i lawr.

Cafodd hi a dyn arall a oedd yn ei helpu, eu harestio, ac mae disgwyl i’r faner gael ei chodi yn ei hôl heddiw ar gyfer rali gan gefnogwyr sy’n dal i arddel y faner yn gryf.

Fel baner taleithiau’r de yn Rhyfel Cartref America, mae’n gysylltiedig â chaethwasiaeth yng ngolwg llawer. Yn sgil hyn, mae galwadau am gael gwared ohoni wedi dwysáu ar ôl i ddyn gwyn lofruddio naw o bobl mewn eglwys yn Charleston yr wythnos ddiwethaf.

Wrth draddodi teyrnged yn angladd y gweinidog, Clementa Pinckney, dywedodd Arlywydd America, Barack Obama, ei bod yn bryd i’r faner fynd.

“Mae cael gwared ar faner y Cydffederasiwn o fannau o anrhydedd yn gam cyfiawn tuag at gyfiawnder,” meddai.

“Trwy dynnu’r faner honno i lawr, rydym yn mynegi gras Duw.”