Argraff arlunydd o ganolfan fysiau newydd Caerdydd (llun gan Gyngor Caerdydd)
Mae’r penseiri byd enwog Foster + Partners wedi cael eu henwi fel ‘y cwmni a ffefrir’ i gynllunio gorsaf fysus newydd yng Nghaerdydd.

Nod y cynllun yw creu cyfnewidfa drafnidiaeth a fydd yn cysylltu teithwyr â rhwydweithiau bws, trên, beic a thacsis.

Mae Foster + Partners yn gyfrifol am rai o ddyluniadau pensaernïol mwyaf adnabyddus y byd gan gynnwys y ‘Gherkin’ yn Llundain, senedd-dy’r Reichstag yn Berlin a maes awyr rhyngwladol Hong Kong.

Roedd y briff yn gofyn am adeilad defnydd-cymysg gyda’r gyfnewidfa fysus yn ganolog iddo, siopau ar y llawr gwaelod a hyd at 200,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd, ynghyd â gwesty â 200 o welyau a chyfleoedd i ddatblygu fflatiau ar y lloriau uwchben.

‘Gwefreiddiol’

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale:

“Mae’r dyluniad a grëwyd gan Foster + Partners yn wefreiddiol. Bydd yn borth trawiadol i Gaerdydd; porth y byddai unrhyw brifddinas yn Ewrop yn falch ohono.

“Bydd yr orsaf fysus yn cael ei dylunio o amgylch cyntedd dan do cyhoeddus, a bydd yn cynnwys ardal aros eang gyda chyfleusterau tebyg i’r hyn a welir mewn meysydd awyr fel arfer. Mae’r dyluniad yn cynnwys rhodfeydd dan do a bydd pobl yn gallu aros am fws yn gyfforddus mewn amgylchedd diogel ac mewn ardal a fydd yn siŵr o ddatblygu’n un o sgwariau cyhoeddus gorau’r ddinas.”

Ychwanegodd y bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori’n cael eu cynnal dros y mis nesaf er mwyn i’r cyhoedd cael cyfle i roi eu barn cyn cychwyn y gwaith dylunio manwl.