Bydd senedd Gwlad Groeg yn pleiidleisio heno ar gynnal y refferendwm ddydd Sul nesaf
Mae Prif Weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras, wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal refferendwm ar gytundeb ariannol sy’n cael ei gynnig gan gredydwyr y wlad.

Gyda’r wlad o fewn dyddiau i fethdaliad neu gael eu taflu allan o’r Ewro, dywedodd fod cynnig y credydwyr yn gosod amodau llym y byddai’n amhosibl i lywodraeth ei blaid Syriza eu derbyn.

Fe fydd senedd Gwlad Groeg yn pleidleisio heno ar y bwriad i gynnal refferendwm, ac os caiff ei basio fe fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ddydd Sul nesaf.

Wrth drafod y cyhoeddiad, dywedodd un o Aelodau Seneddol Ewropeaidd Syriza, Konstantinos Chrysogonos, ar raglen Newsnight neithiwr:

“Mae’n amlwg fod y cytundeb y mae’r credydwyr yn ei gynnig i lywodraeth Gwlad Groeg yn mynd y tu hwnt i’r mandad a roddodd y bobl i’r llywodraeth hon.

“Mae’n debyg nad oedd unrhyw ffordd arall ond cyflwyno gofynion y credydwyr i refferendwm.”

Croeso gofalus

Mae’r cyhoeddiad wedi cael croeso gofalus gan lywodraeth yr Almaen, sy’n un o’r prif gredydwyr.

“Fe fyddai’n ddoeth inni beidio â diystyru’r cynnig yma gan Mr Tsipras a dweud mai tric ydyw,” meddai Sigmar Gabriel, is-ganghellor yr Almaen.

“Os yw’r cwestiynau’n glir – os yw’n wirioneddol glir eu bod yn pleidleisio ar raglen sydd wedi cael ei thrafod, gallai wneud synnwyr.

“Mae’n rhaid cael rhaglen glir. Ac mae’r hyn a hoffai Mr Tsipras, sef i Ewrop anfon 20 neu 30 biliwn Ewro i wlad Groeg heb unrhyw amodau, yn rhywbeth na all Ewrop ei dderbyn.”