Tunisia
Mae o leiaf 27 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiad brawychol ar ddau westy ar arfordir Tunisia, yn ôl llywodraeth y wlad.

Yn ôl adroddiadau fe ddechreuodd dau ddyn saethu twristiaid yng ngwersyll gwyliau Sousse, sydd tua 90 milltir i ffwrdd o Tunis.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod y rhan fwyaf o’r bobl gafodd eu lladd yn dwristiaid, ac yn ôl gorsafoedd radio lleol mae llawer ohonyn nhw’n Brydeinwyr ac Almaenwyr.

Yn ôl un Prydeiniwr sydd ar wyliau yno, Gary Pine, roedd e ar y traeth pan glywodd synau clecian ac yna ffrwydrad o’r gwesty drws nesaf.

Dywedodd fod ei fab wedi gweld rhywun ar y traeth yn cael eu saethu, a bod pawb ar y traeth wedi dianc yn ôl i’w hystafelloedd gwely a chloi’r drysau.

Mae Tunisia wedi bod yn dioddef o ymosodiadau gan grwpiau milwrol dros y misoedd diwethaf, gydag un ymosodiad ym mis Mawrth yn lladd 22 o bobl mewn amgueddfa.