Arwyddion Llydaweg
Mae Cyngor Dinas Quimper wedi mabwysiadu polisi er mwyn hybu’r Llydaweg a’r diwylliant Llydewig.

Cafodd y polisi, a gafodd ei gyflwyno i’r Cyngor yn Llydaweg a Ffrangeg, ei drafod mewn cyfarfod o’r cyngor ddiwedd yr wythnos diwethaf.

Mae’r polisi’n amlinellu rôl y Cyngor yn y broses o wneud y Llydaweg yn fwy gweladwy.

Mae’r ddogfen hefyd yn rhoi sylw i ganllawiau ar ddatblygu dwyieithrwydd ymhlith plant ifanc a hybu digwyddiadau diwylliannol o bwys.

Fe fydd y polisi hefyd yn ceisio rhoi mwy o bwys ar y Llydaweg wrth lunio dogfennau swyddogol.

Mae arweinydd prosiect wedi cael ei benodi i ymgymryd â’r gwaith, meddai’r Cyngor.