Y ffrwydrad tu allan i Senedd Afghanistan
Mae’r Taliban wedi ymosod ar senedd Afghanistan yn y brifddinas Kabul heddiw.

Fe wnaeth hunan-fomiwr mewn car ffrwydro bom ger mynedfa’r adeilad wrth i wleidyddion gwrdd i drafod penodiad newydd y gweinidog amddiffyn, meddai heddlu’r wlad.

Yn dilyn y ffrwydrad, fe wnaeth dynion arfog geisio torri mewn i’r senedd cyn cael eu gwthio yn ôl gan ddynion diogelwch. Mae’r dynion arfog bellach yn celu mewn adeilad arall gerllaw.

Roedd pob gwleidydd oedd yn y senedd adeg yr ymosodiad yn ddiogel, meddai llefarydd, ond mae 18 o aelodau’r cyhoedd wedi cael eu hanafu.

Mae’r Taliban wedi cadarnhau mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.