Nadine Koutcher
Soprano o Felarws gafodd ei choroni yn enillydd cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2015 neithiwr.

Cafodd Nadine Koutcher, sy’n 32 oed, ganmoliaeth arbennig gan y beirniaid am berfformiad “gwefreiddiol” o ddarnau gan Mozart, Rimsky-Korsakov a Delibes.

Mae hi’n derbyn £15,000 a’r cyfle i berfformio darn newydd gan y cyfansoddwr John Lunn yn y BBC Proms yn 2016.

Roedd pum canwr yn y rownd derfynol, ar ôl i’r beirniaid dderbyn ceisiadau gan 400 o gantorion addawol.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei hystyried yn un o’r pwysicaf yn y byd ar gyfer cantorion opera ac yn cael ei chynnal bob dwy flynedd.