Mae adroddiadau bod sach o ddyfeisiadau ffrwydrol gafodd ei ddarganfod ar un o gyn safleoedd Boko Haram yn Nigeria wedi ffrwydro, gan ladd o leiaf 63 o bobol.

Dywedodd llygad dystion bod aelodau o’r cyhoedd yn gwarchod ardal yn nwyrain y wlad pan ddaethpwyd o hyd i’r dyfeisiadau. Fe aethpwyd a’r sach i dref Monguno gerllaw, lle y digwyddodd y ffrwydrad ddoe.

Roedd nifer o bobol wedi ymgasglu o gwmpas y sach er mwyn ei archwilio, yn ôl y tyst Haruna Bukar.

Mudiad eithafol Boko Haram oedd yn rheoli rhan helaeth o ddwyrain Nigeria nes i ymgyrch rhyngwladol eu gorfodi i adael trefi a phentrefi yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae’r gwrthryfelwyr bellach wedi cilio i Goedwig Sambia, ond mae ymosodiadau yn parhau.