Atomfa Wylfa yn Ynys Mon
Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear wedi bod yn protestio tu allan i gynhadledd yng Nghaerdydd sy’n cael ei chynnal gan rai o gwmnïau mwyaf y diwydiant.

Cynrychiolwyr o Magnox, EDF, Nuclear Industry Association a Sellafield Cyf sy’n trefnu ac yn annerch y gynhadledd ddeuddydd yng ngwesty’r Hilton.

Er mai trafod diogelwch y gorsafoedd presennol sydd ar agenda’r cyfarfod, mae’r protestwyr yn pryderu bod y cwmnïau yn trafod cynlluniau i adeiladu gorsafoedd niwclear newydd ym Mhrydain, fel yr un fydd yn cael ei godi 15 milltir o arfordir de Cymru yn Hinkley Point.

Maen nhw hefyd yn bwriadu protestio y tu allan i’r adeilad yfory, gan alw am sgrapio’r cynlluniau i adeiladu atomfa newydd ar safle Wylfa yn Ynys Môn.

Meddai un o’r ymgyrchwyr Marie Walsh o’r Coed Duon: “Byddai gorsaf niwclear newydd yn Hinkley Point yn rhoi trigolion de Cymru mewn peryg.

“Rydym eisiau gweld buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy – dyna le dylai arian treth dalwyr fod yn mynd.”

‘Llanast ymbelydrol’

Ychwnagodd Jill Gough o CND Cymru bod y protestwyr yn galw ar Lywodraeth Prydain i atal unrhyw gynlluniau i sefydlu mwy o orsafoedd niwclear:

“Mewn unrhyw gyd-destun, mae’r risg o ynni niwclear yn rhy uchel. Dylai’r Llywodraeth atal unrhyw geisiadau newydd a chanolbwyntio ar ddelio gyda’r llanast ymbelydrol yr ydym wedi’i greu yn barod.”