Y bloc o fflatiau lle digwyddodd y ddamwain
Mae teuluoedd rhai o’r myfyrwyr o Iwerddon fu farw pan gwympodd balconi yn ystod parti pen-blwydd yng Nghaliffornia wedi dechrau cyrraedd yr Unol Daleithiau.

Cafodd y chwech fu farw – pump o Iwerddon ac un oedd yn byw yng Nghaliffornia – eu lladd ar ôl i’r balconi gwympo o bedwerydd llawr bloc o fflatiau yn Berkeley.

Cafodd saith o bobl eraill eu hanafu.

Daeth cadarnhad mai’r rhai fu farw yw Ashley Donohoe, 22 o Galiffornia; Olivia Burke, Eoghan Culligan, Niccolai Schuster, Lorcan Miller ac Eimear Walsh, bob un yn 21 ac yn dod o Iwerddon.

Mae peirianwyr wedi bod ar y safle yn Berkeley i geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd cyn y ddamwain. Roedd darnau o bren wedi dod i ffwrdd o’r balconi.

Yn ôl adroddiadau, roedd 13 o bobol ar y balconi, oedd yn ormod i ddal eu pwysau.

Cafodd y bobol eu taflu 50 troedfedd i lawr i’r palmant o dan y balconi ger Prifysgol Califfornia.

Dywedodd llygad-dystion eu bod nhw’n credu bod daeargryn wedi taro’r ardal, ond fe welson nhw waed wrth fynd yn nes at y safle.

Roedd yr heddlu wedi derbyn cwyn am lefel y sŵn yn ystod y parti, a hynny ryw awr cyn i’r balconi ddymchwel – ond doedden nhw ddim wedi cyrraedd erbyn y ddamwain.

Roedd y Gwyddelod wedi teithio i’r Unol Daleithiau i weithio dros gyfnod yr haf.

Mae’r rhaglen astudio yr oedden nhw’n rhan ohoni’n denu 100,000 o fyfyrwyr i’r Unol Daleithiau bob blwyddyn.

Mewn datganiad, dywedodd Greystar Management, sy’n berchen yr adeilad: “Diogelwch ein preswyliaid yw ein prif flaenoriaeth ac fe fyddwn yn cydweithio â pheirianwyr strwythurol annibynnol a’r awdurdodau lleol i ddarganfod beth achosodd y ddamwain.”

Mae teyrngedau a blodau wedi’u gadael ger y safle.