Edwina Hart
Mae entrepreneur o Gaerdydd a ddechreuodd werthu nwyddau ar y we o garej ei rieni wedi ehangu ei gwmni a symud i ganolfan weithredu newydd yng Nghaerdydd, gan greu 100 o swyddi newydd i bobol leol.

Disgwylir i drosiant cwmni harddwch Rakesh Aggarwal, Escentual, gynyddu i dros £40 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu cyllid busnes at y fenter fydd yn gymorth i greu 100 o swyddi yn Ocean Park, Caerdydd dros y ddwy flynedd nesaf a diogelu 20 o swyddi eraill.

Twf

Mae’r ganolfan weithredu a’r pencadlys newydd deirgwaith maint y safle blaenorol yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn caniatáu i Escentual, sy’n gwerthu deunydd cosmetig a phersawr, gynyddu’r dewis o gynnyrch y mae’n ei werthu o 5,000 i 15,000 o eitemau.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Mae twf Escentual a nifer sylweddol y swyddi y mae’r cwmni’n eu creu yn dangos pa mor bwysig yw swyddogaeth entrepreneuriaid i’r economi.

“Ar ôl bod wrthi ers 15 mlynedd, rydw i’n falch bod y cwmni wedi aros yng Nghymru wrth iddo fynd ati i roi’r cynlluniau ar gyfer twf ar waith, a hynny gyda chymorth Llywodraeth Cymru.”

Mae gan y cwmni bolisi o recriwtio’n lleol. Mae pob aelod o’r tîm rheoli ond un yn raddedigion o Brifysgolion Cymru ac mae aelodau eraill o’r tîm wedi’u recriwtio drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru GO Wales a Twf Swyddi Cymru.