Mae’r llong ofod Philae wedi “deffro o’i gaeafgwsg”, yn ôl Asiantaeth Ofod Ewrop.
Philae oedd y llong ofod gyntaf i lanio ar gomed pan gyrhaeddodd wyneb 67P ym mis Tachwedd.
Dywedodd Canolfan Aerofod yr Almaen, sy’n gyfrifol am reoli Philae, fod y llong ofod wedi cysylltu â’r tîm ar y ddaear am 85 eiliad ddoe.
Llwyddodd Philae i gynnal arbrofion ac i anfon data i’r Ddaear am 60 awr cyn i’w batris redeg allan.
Ond cafodd Philae ei hail-danio neithiwr, gan anfon tua 300 o becynnau o ddata trwy ei phrif long ofod Rosetta.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Stephan Ulamec: “Mae Philae yn gwneud yn dda iawn.”
Mae gan Philae oddeutu 8,000 o becynnau data nad yw arbenigwyr wedi cael mynediad iddyn nhw hyd yma.
Mae union leoliad Philae yn parhau’n ddirgelwch ond fe allai’r pecynnau newydd roi gwybodaeth i arbenigwyr sy’n ceisio dod o hyd iddi.