Eleanor Hawkins

Mae dynes o Loegr gafodd ei chyhuddo ar ôl tynnu ei dillad ar ben mynydd sanctaidd ym Malaysia wedi cael ei dedfrydu i dridiau o garchar a dirwy o £1,000.

Roedd Eleanor Hawkins, 23, yn un o griw o 10 o deithwyr wnaeth dynnu lluniau yn noeth ar ben Mynydd Kinabalu yn Borneo – mangre sanctaidd i drigolion lleol sy’n ei ystyried fel man lle mae eneidiau yn mynd ar ôl marw.

Mewn llys yn Kota Kinabalu, fe blediodd hi a thri pherson arall – merch a dyn o Ganada a dyn o’r Iseldiroedd – yn euog i’r drosedd.

Daeargryn

Yn lleol, mae ymddygiad y teithwyr wedi cael ei feio am achosi daeargryn mawr ar y mynydd, wnaeth ladd 18 o bobol a gadael cannoedd yn ddigartref.

Dywedodd y Gweinidog Joseph Pairin Kitingan bod y teithwyr wedi “dangos amarch” tuag at y mynydd sanctaidd.

Mae tad Eleanor Hawkins o Derbyshire eisoes wedi dweud ei bod hi’n ymddiheuro am unrhyw ddrwg deimlad sydd wedi deillio o’i gweithredoedd.