Mae swyddog heddlu yn Texas, gafodd ei weld ar fideo yn gorfodi merch ifanc mewn parti i’r llawr cyn anelu gwn at eraill, wedi ymddiswyddo.

Roedd David Eric Casebolt, 41, wedi treulio bron i 10 mlynedd yn gweithio i’r heddlu ond fe gafodd ei ymddygiad treisgar yn yr achos yma ei feirniadu yn rhyngwladol.

Fe ddangosodd y fideo luniau ohono yn gafael yn y ferch ddu 15 oed, oedd yn gwisgo bicini, ac yn ei gwthio i’r llawr cyn rhoi ei bengliniau ar ei chefn er mwyn ei dal i lawr.

Wrth ymateb i gŵyn am y parti yn Dallas, roedd hefyd wedi gwthio nifer o bobol eraill i’r llawr ac wedi anelu ei wn atyn nhw.

Ddoe, fe wnaeth miloedd o bobol brotestio tu allan i ysgol gynradd leol yn erbyn ymddygiad yr heddwas.

Mae galwadau ar yr Adran Gyfiawnder i gynnal ymchwiliad.