Mae Sainsbury’s wedi cyhoeddi gostyngiad arall mewn gwerthiant am y chweched chwarter yn olynol.

Roedd gwerthiant yn ei archfarchnadoedd, sydd ddim yn cynnwys tanwydd, yn 2.1% yn y 12 wythnos hyd at 6 Mehefin, sy’n is na’r disgwyl.

Daw hyn ar ben gostyngiad o 1.9% yn y tri mis blaenorol.

Mae Sainsbury’s dan bwysau oherwydd bod prisiau bwyd yn y DU yn gostwng a chystadleuaeth ffyrnig gan archfarchnadoedd rhatach fel Aldi a Lidl.

Roedd prif weithredwr Sainsbury’s Mike Coupe wedi cyflwyno gostyngiad ym mhrisiau 1,100 o eitemau ar ôl iddo ddechrau yn ei swydd y llynedd, ond dywedodd heddiw fod y farchnad yn parhau’n “gystadleuol iawn”.