Lagwn Bae Abertawe
Fe all pryderon amgylcheddol am fywyd gwyllt effeithio ar amserlen cynllun i adeiladu’r morlyn pŵer llanw cyntaf yn y byd yn Abertawe.

Cafodd y cynllun gwerth £1 biliwn sêl bendith yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC ) ddoe ond mae’n rhaid iddo hefyd dderbyn cefnogaeth lawn gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn poeni am yr effaith ar y boblogaeth o bysgod yn yr ardal.

Yr asiantaeth fydd yn penderfynu cymeradwyo trwydded forol i’r cynllun neu beidio.

Amcan Tidal Lagoon, sydd y tu ôl i’r cynllun, yw adeiladu wal fôr 9.5km o hyd ym Mae Abertawe, gan gysylltu Dociau Abertawe yn y gorllewin â Champws Gwyddoniaeth a Dyfeisgarwch newydd Prifysgol Abertawe yn y dwyrain.

Gallai’r gadwyn o dyrbinau chwe milltir o hyd gynhyrchu tua 500GWh o drydan y flwyddyn yn ôl amcangyfrifon.

Mae disgwyl i’r cynllun hefyd greu 1,800 o swyddi adeiladu gwerth £500m dros dair blynedd i’r economi leol.

Croeso

Mae penderfyniad DECC i gymeradwyo’r morlyn yn cael ei ystyried fel cam mawr ymlaen i’r prosiect ac yn un sydd wedi’i groesawu gan sefydliadau lleol.

Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Crymu: “Mae Cymru mewn lle i fanteisio ar botensial ynni morol…ac mi fyddwn ni’n parhau i gydweithio hefo’r datblygwyr i sicrhau bod pobol ar draws Cymru yn gweld budd o’r prosiect.”

Ychwanegodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Iwan Davies, y bydd yn cydweithio a chwmni Tidal Lagoon  yn eu hymchwil.

Fe fydd y cynllun hefyd yn sicrhau nad yw Cymru a Phrydain yn llwyr ddibynnol ar danwydd ffosil, yn ôl cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Gareth Clubb:

“Mae pryderon amgylcheddol i’w lleddfu eto, ond cyn belled bod y rhain yn cael eu rheoli, fe all y morlyn llanw wneud cyfraniad mawr gan helpu i greu ynni glan a diogel ar gyfer y dyfodol,” meddai.