Amgueddfa Bardo, yn Tunis, wedi'r ymosodiad
Mae heddlu’r Eidal wedi arestio dyn o Forocco ar amheuaeth o gynllwynio i drefnu a chyflawni ymosodiad ar amgueddfa Bardo yn Nhiwnisia.

Cafodd 22 o bobol eu lladd yn yr ymosodiad ar Fawrth 18.

Cafodd Abdelmajid Touil ei arestio nos Fawrth yng nghartref ei fam a’i frodyr yn nhref Gaggiano ger Milan.

Mae lle i gredu ei fod wedi mynd i’r Eidal ar Chwefror 17 yn un o lu o ffoaduriaid ar gwch.

Ond dydy hi ddim yn glir eto pryd y gadawodd yr Eidal, ond mae’r heddlu yn credu ei fod wedi mynd yn syth am ddinas Tunis.

Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Touil yn cynnwys cynllwynio i lofruddio, cynllwynio i ymosod ar y wladwriaeth, bod yn aelod o grŵp o frawychwyr a recriwtio a hyfforddi pobol eraill i gyflawni troseddau brawychol.

Roedd y Wladwriaeth Islamaidd eisoes wedi hawlio’r cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar amgueddfa Bardo.

Cafodd dau ddyn arfog eu saethu’n farw gan yr heddlu yn dilyn y digwyddiad.

Mae lle i gredu bod person arall yn bennaf gyfrifol am drefnu’r ymosodiad.

Mae oddeutu 20 o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r ymosodiad hyd yma.