Sepp Blatter, llywydd FIFA
Fe allai tîm pêl-droed Israel gael ei gwahardd o gystadlu yn rhyngwladol yn dilyn cwyn gan Gymdeithas Bêl-droed Palestina i gorff rheoli’r gêm, FIFA.
Mae’r Palestiniaid wedi cyhuddo CBD Israel o wahaniaethu yn erbyn eu pêl-droedwyr nhw a’u hatal rhag gallu symud yn rhydd, yn ogystal â chaniatáu timau o diroedd y maen nhw wedi ei meddiannu.
Bydd pleidlais ar y mater yn cael ei chynnal yng nghynhadledd FIFA yn Zurich ar 29 Mai oni bai bod y Palestiniaid yn tynnu’r cwyn yn ôl.
Petai tri chwarter y gwledydd yn pleidleisio o blaid y cynnig fe fyddai Cymdeithas Bêl-droed Israel yn cael ei gwahardd – ac fe allai hynny olygu goblygiadau i grŵp rhagbrofol Ewro 2016 Cymru.
Blatter yn camu mewn
Mae llywydd FIFA Sepp Blatter eisoes wedi camu mewn i geisio datrys y ffrae, gan fynegi barn bersonol bod y bleidlais yn un “amhriodol” ond yn cyfaddef hefyd nad yw’n medru ei atal rhag digwydd.
Bydd Sepp Blatter yn cyfarfod prif weinidog Israel Benjamin Netanyahu ac arlywydd Palestina Mahmoud Abbas yn Jerwsalem heddiw i geisio canfod datrysiad i’r sefyllfa.
Mae cyhuddiadau’r CBD Palestina yn erbyn yr Israeliaid yn cynnwys camdriniaeth a hiliaeth gan awdurdodau Israel yn erbyn chwaraewyr a swyddogion Palestinaidd.
“Dylai’r gyngres gyfan godi’r cerdyn coch. Rydyn ni wedi trafod gyda phawb a does neb wedi dweud wrthym ni fod ein gofynion yn afresymol nac yn anghyfreithlon,” meddai llywydd Cymdeithas Bêl-droed Palestina, Jibril Rajoub.
Ar y llaw arall, mae llywydd Cymdeithas Bêl-droed Israel Ofer Eini wedi mynnu nad ydyn nhw “wedi torri unrhyw ddeddfau na rheolau” ac y byddan nhw’n “parhau i gefnogi” pêl-droed ym Mhalestina, gan ddweud fod hyn yn codi materion gwleidyddol sydd y tu hwnt i’w cyfrifoldeb nhw.
Goblygiadau?
Mae’r Israeliaid yn ymddangos yn dawel hyderus na fydd tri chwarter cyngres FIFA yn pleidleisio o blaid cynnig y Palestiniaid i’w diarddel.
Ond maen nhw wedi bod yn siarad â nifer o gymdeithasau pêl-droed eraill dros yr wythnosau diwethaf er mwyn sicrhau cefnogaeth, ac mae’r Palestiniaid wedi dweud na fyddai colli’r bleidlais wythnos nesaf yn cau pen y mwdwl ar y mater.
Petai Israel yn cael eu gwahardd o gystadlaethau pêl-droed yn dilyn y bleidlais fe allai hynny effeithio ar ymgyrch Cymru i geisio cyrraedd Ewro 2016.
Mae Cymru yn ail yn y grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, dau bwynt o flaen Israel, a hynny ar ôl i dîm Chris Coleman gipio buddugoliaeth wych yn Haifa ym mis Mawrth.
Dydi UEFA heb ddweud beth fyddai’n digwydd i Israel yn sgil pleidlais yn eu herbyn yng nghyngres FIFA, ond petai’r mater ddim yn cael ei ddatrys fe allai arwain yn y pendraw at Israel yn colli eu lle yn y grŵp.
Byddai hynny’n debygol o olygu bod y timau yn colli unrhyw bwyntiau maen nhw wedi ei gasglu yn erbyn Israel – ond hefyd yn golygu bod un tîm yn llai i gystadlu yn ei erbyn wrth geisio sicrhau lle yn y twrnament yn Ffrainc.