Prifysgol Caerdydd
Mae Clwb Rygbi Meddygon Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cosbi’n llym yn dilyn ymchwiliad i ymddygiad meddwol gan rai ohonynt ar long fferi.

Nawr, mae’r Brifysgol a’r tîm rygbi wedi  dod at ei gilydd mewn ymgais i sicrhau na fydd y fath ymddygiad yn cael ei ailadrodd.

Roedd y tîm yn croesi’r Sianel ar drip rygbi’n ddiweddar pan ddigwyddodd yr helynt ar fwrdd y llong.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod aelodau Clwb Rygbi Meddygon Caerdydd wedi ymddwyn mewn modd annerbyniol – gan gynnwys ymddygiad meddw; bod yn swnllyd ac yn sarhaus; a defnyddio iaith fudr oedd yn debygol o fod yn fygythiol i’w cyd-deithwyr.

Cosbau

O ganlyniad i’r ymchwiliad, mae ffigurau allweddol o Glwb Rygbi Meddygon Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, yr Ysgol Feddygaeth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi ymuno i gondemnio ymddygiad nifer bach o aelodau’r tîm a chyflwyno mesurau i newid y diwylliant trwy fynd i’r afael a gwraidd yr ymddygiad.

Maen nhw hefyd wedi cefnogi cyfres o gosbau llym yn erbyn y rhai sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad ac wedi ymrwymo i gefnogi’r mesurau a gynlluniwyd i sicrhau newid hirdymor yn y diwylliant fel bod digwyddiad o’r fath ddim yn digwydd eto.

Mae’r cosbau’n cynnwys gwaharddiad ar bob taith rygbi Clwb Rygbi Meddygon Caerdydd hyd nes bydd gan yr awdurdodau hyder ynddyn nhw eto; bod yr holl fyfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad yn cynnal cyfres o weithdai proffesiynoldeb yn eu hamser eu hunain (gyda’r nos ac ar y penwythnos); a newid delwedd y tîm, sy’n cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian i elusennau a ffocws cymunedol i ail-sefydlu enw da’r tîm.

Ymddiheuriad

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar ran Clwb Rygbi Meddygon Caerdydd, ymddiheurodd y Llywydd, Dr Ian Harris, i unigolion a sefydliadau a gafodd eu heffeithio gan ymddygiad y chwaraewyr a mynnodd “nad ydynt yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol gan eu haelodau.”

Dywedodd yr Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Patricia Price: “Mae’r mwyafrif helaeth o fyfyrwyr Caerdydd yn mynd allan, yn mwynhau eu hunain ac yn gwybod pryd i stopio.

“Mae’n anffodus bod y digwyddiad wedi maeddu enw da’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr – ac yn arbennig, nifer fechan o’n myfyrwyr meddygol.

“Mae’r ymchwiliad a chosbau trylwyr yn anfon neges glir iawn i’n myfyrwyr meddygol, a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn fwy cyffredinol, na fyddwn ni, fel Prifysgol, yn goddef y math hwn o ymddygiad.”