Ashley Williams
Mae capten Abertawe Ashley Williams wedi cyfaddef ei fod yn teimlo rhywfaint o ryddhad ar ôl i’r clwb fethu allan ar le yng Nghynghrair Ewropa y tymor nesaf.

Dros y penwythnos fe gollodd Abertawe i Man City tra bod Southampton a Spurs wedi ennill eu gemau nhw, gan olygu y bydd yr Elyrch yn gorffen yn wythfed yn yr Uwch Gynghrair.

Mae hynny’n golygu na fydd y tîm yn cael y cyfle i chwarae yn Ewrop y tymor nesaf, fel y gwnaethon nhw dwy flynedd yn ôl pan gyrhaeddon nhw rownd 32 olaf y gystadleuaeth.

Ond mae Ashley Williams wedi awgrymu y gallai hynny fod yn fendith, gan y byddan nhw nawr yn gallu canolbwyntio ar y gynghrair.

“Dioddef” yn yr Ewropa

Mae llawer yn ystyried chwarae yng Nghynghrair Ewropa’n fwy o drafferth na’i werth, gan fod rhaid chwarae’r gemau ar nos Iau a bod llawer llai o wobr ariannol na sydd yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Ac mae Ashley Williams yn fodlon methu allan ar chwarae ynddi’r tymor nesaf gan ei fod e a’r clwb eisoes wedi cael blas o’r gystadleuaeth.

“Nes i fwynhau chwarae’r gemau pan oedden ni yn y gystadleuaeth tymor diwethaf ond mae’n anodd iawn,” cyfaddefodd y capten.

“Rydych chi’n gweld bod y rhan fwyaf o dimau’r Uwch Gynghrair yn dioddef pan maen nhw ynddo fe.

“Dw i’n falch mod i wedi chwarae ynddo unwaith yn fy ngyrfa a bydde fe ddim wedi bod yn siom petai ni wedi cyrraedd yno [tymor yma].

“Ond byddai’n well gen i ganolbwyntio ar y gynghrair.”

Ble nesaf?

Mae Abertawe eisoes wedi torri eu record pwyntiau yn yr Uwch Gynghrair y tymor yma yn ogystal â gorffen yn uwch nag y maen nhw erioed wedi o’r blaen.

Ac fe gyfaddefodd Ashley Williams y bydd yn rhaid i’r clwb fod yn barod i gystadlu yn Ewrop yn y tymor hir os nad yw’r clwb am aros yn ei hunfan.

“Pwy a ŵyr os ydyn ni wedi cyrraedd y to, rydyn ni jyst yn mwynhau bod yn wythfed ar hyn o bryd,” meddai’r Cymro.

“Y prif beth yw ein bod ni’n parhau i wella ac rydyn ni wedi gweld cynnydd eleni. Os taw Cynghrair Ewropa yw’r cam nesaf wedyn mae’n rhaid ceisio ei gyrraedd.

“Wedyn mae e lan i’r clwb i gael carfan fwy a’i reoli e’n well nag y gwnaethon ni y tro diwethaf.”