Mark Wallace yw’r wicedwr cyntaf yn hanes Clwb Criced Morgannwg i sgorio 10,000 o rediadau dosbarth cyntaf i’r sir.

Cyrhaeddodd Wallace y nod yn ystod sesiwn olaf diwrnod cynta’r ornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Essex yng Nghaerdydd heddiw.

Roedd Wallace eisoes wedi cyrraedd 10,000 o rediadau yn ei yrfa ar ddiwrnod olaf yr ornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road ar ddechrau’r tymor.

Roedd angen 14 ar Wallace ar ddechrau’r batiad i gyrraedd y nod.

Wallace oedd y wicedwr ieuengaf i gynrychioli Morgannwg pan ymddangosodd am y tro cyntaf yn 1999, ac mae e bellach wedi chwarae mewn dros 200 o gemau’n olynol yn y Bencampwriaeth, sy’n record i’r sir.

Cafodd Wallace ei benodi’n gapten yn 2012, ond cafodd ei ddisodli y tymor hwn gan Jacques Rudolph.

Tarodd 1,000 o rediadau mewn tymor am y tro cyntaf yn 2011, ac mae e bellach yn bumed ar restr y wicedwyr am y nifer fwyaf o ddaliadau a stympiadau.