Diffoddwyr tân ar safle'r ffatri ger Manila
Mae ofnau bod dwsinau o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn tân mawr mewn ffatri ger prifddinas ynysoedd y Philipinas, Manila.
Roedd gweithwyr ffatri Kentex, sy’n cynhyrchu slipers rwber, wedi rhedeg i ail lawr yr adeilad wrth geisio ffoi, ond fe gawson nhw eu dal yno.
Mae o leiaf tri chorff wedi cael eu darganfod hyd yn hyn ac mae ofnau bod tua 60 o bobol ar goll.
Y gred yw mai gwreichion o waith weldio wnaeth gychwyn y tân a bod hynny wedi arwain at ffrwydrad ger prif ddrws y ffatri yn ninas Valenzuela.
Nid yw’n glir os oedd drysau tân yn yr adeilad.