Pobl yn ymgasglu ar y strydoedd yn Kathmandu wedi ail ddaeargryn yno
Mae o leiaf 42 o bobl wedi’u lladd a mwy na 1,000 wedi’u hanafu ar ol i ddaeargryn mawr arall daro Nepal, llai na thair wythnos wedi i ddaeargryn  ladd o leiaf 8,500 o bobol ac anafu mwy na 17,860.

Roedd y daeargryn wedi taro ardal fynyddig ac anghysbell gan achosi tirlithriadau a dymchwel adeiladau.

Mae hofrenyddion wedi cael eu hanfon i ardaloedd i’r gogledd ddwyrain o’r brifddinas Kathmandu.

Mae’r llywodraeth wedi cael trafferth cysylltu efo pobl yn yr ardal ond mae adroddiadau’n awgrymu bod difrod i adeiladau yn ardaloedd Sindhupalchowk a Dolkha.

Mae timau achub yn chwilio drwy’r rwbel ar ôl i adeiladau ddymchwel.

Bu’n rhaid cau maes awyr Kathmandu am gyfnod.

Mae sawl adeilad wedi dymchwel ym mhentref Chautara – oedd yn ganolbwynt ar gyfer darparu cymorth dyngarol ar ôl y daeargryn diwethaf ar 25 Ebrill.

Roedd y daeargryn diweddaraf yn mesur 7.4 ar y raddfa yn ôl yr Arolwg Daearegol yn yr Unol Daleithiau.

Roedd y canolbwynt mewn ardal ynysig ger ffin Nepal a China, rhwng y brifddinas Kathmandu a Mynydd Everest.

Yn ol adroddiadau roedd modd teimlo’r daeargryn cyn belled â Delhi yn India a Dhaka yn Bangladesh.