Arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale wedi methu cael ei ailethol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol grŵp Llafur y brifddinas.
Yn sgil hyn, mae amheuon wedi codi am ei ddyfodol a phleidlais arall wedi’i threfnu ar gyfer yr wythnos nesa’.
Roedd y bleidlais yn gyfartal rhwng Phil Bale a chynghorydd Grangetown Lynda Thorne.
Dyma’r eildro i Phil Bale wynebu bygythiad i’w swydd fel arweinydd mewn cyfnod o 10 wythnos. Roedd pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn ym mis Mawrth yn dilyn trafferthion wrth basio cyllideb y cyngor.
Ymddiswyddo?
Yn dilyn y cyfarfod ddoe, roedd dyfalu ar wefannau cymdeithasol a oedd yr arweinydd wedi ymddiswyddo ond mae llefarydd o’r grwp Llafur wedi dweud nad oes gwirionedd yn hynny.