Mae’r awdurdodau ym Mharis yn ymchwilio i honiadau bod milwyr Ffrainc a oedd yn gwarchod plant yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica wedi eu cam-drin yn rhywiol.
Daw’r ymchwiliad wedi i’r Cenhedloedd Unedig dderbyn gwybodaeth am yr honiadau’r llynedd – ond fe gafodd hynny ei gadw’n ddistaw nes i’r Guardian ddatgelu’r manylion.
Mae Gweriniaeth Canolbarth Affrica wedi gweld cynnydd mewn trais rhwng Cristnogion a Mwslemiaid ers 2013. Mae o leiaf 5,000 o bobol wedi cael eu lladd a tua 1 miliwn o bobol yn ddigartref neu wedi ffoi’r wlad.
Cafodd milwyr o Ffrainc eu hanfon yno ddiwedd 2013 ac fe gafodd yr Uwch Gomisiynydd tros Hawliau Dynol wybod am “honiadau difrifol o ecsbloetio plant yn rhywiol gan filwyr Ffrengig” yn y brif ddinas Bangui ar ddechrau 2014.
Mae tau 10 plentyn wedi dweud eu bod wedi cael eu cam-drin yn rhywiol gan filwyr o amgylch maes awyr M’Poko rhwng mis Rhagfyr 2013 a mis Mehefin 2014, meddai datganiad.