Mae o leiaf chwech o bobl wedi cael eu lladd yn ystod gwrthdaro rhwng yr heddlu a phobl sy’n gwrthwynebu cais yr Arlywydd Burundi i gael ei ethol am drydydd tymor, yn ôl llefarydd ar ran y Groes Goch yn y wlad.

Mae cannoedd wedi ymgasglu ar strydoedd y brifddinas er gwaethaf y presenoldeb milwrol.

Cafodd tri o bobl eu lladd yn ystod gwrthdaro gyda’r heddlu ddoe  a bu farw tri o bobl eraill dros nos, yn ol llefarydd ar ran y Groes Goch, Alexis Manirakiza. Cafodd saith o bobl eraill eu hanafu, meddai.

Mae protestiadau wedi cael eu cynnal yn Bujumbura ar ol i’r blaid sydd mewn grym enwebu’r Arlywydd Pierre Nkurunziza am dymor arall. Mae llawer yn dadlau bod hynny’n anghyfansoddiadol.

Mae cannoedd o brotestwyr wedi codi baricedau ac wedi rhoi teiars ar dân yn Bujumbura. Cafodd milwyr eu hanfon yno ddoe i geisio cadw trefn yn dilyn gwrthdaro ffyrnig.

Mae disgwyl i’r etholiadau arlywyddol gael eu cynnal ar 26 Mehefin ac mae tensiynau gwleidyddol wedi bod yn cynyddu ers dechrau’r flwyddyn.

Cafodd Nkurunziza ei benodi’n arlywydd gan y senedd yn 2005 er mwyn arwain  llywodraeth dros dro – ond ni chafodd ei ethol gan y bobl.

Fe enillodd yr etholiad yn 2010 gan mai ef oedd yr unig ymgeisydd. Roedd yr ymgeiswyr eraill wedi boicotio’r etholiad, gan ddweud eu bod yn ofni ei bod wedi’i rigio.

Mae mwy na 10,000 o bobl wedi ffoi o Burundi i Rwanda, gan ddweud eu bod wedi bod dan bwysau i gefnogi plaid Nkurunziza.