Mae angen cyfuniad o weithredu’n filwrol a chasglu cudd-wybodaeth er mwyn trechu’r diwydiant masnachu mewnfudwyr, yn ôl Prif Weinidog Prydain, David Cameron.

Dywedodd Cameron nad oes “un ateb syml” i’r broblem.

Daeth cadarnhad eisoes y byddai’r lluoedd arfog yn anfon llong HMS Bulwark i Fôr y Canoldir ynghyd â llongau a hofrenyddion eraill y lluoedd arfog.

Daeth arweinwyr Ewrop ynghyd yr wythnos diwethaf i drafod yr argyfwng yn dilyn y digwyddiad diweddaraf pan gafodd 800 o bobol eu lladd tra’n croesi o Affrica i Ewrop.

Dywedodd Cameron wrth raglen Murnaghan ar Sky News: “Byddwn i’n dweud wrth bobol, os ydych chi’n gofyn am gamau gwahanol a ydych chi’n golygu y dylai fod gennym draed ar y llawr, milwyr yn Libya ar ddiwedd y gwrthdaro?

“Dw i’n credu y byddai hynny wedi gwaethygu pethau yn hytrach na’u gwella ond mae angen i ni gadw fynd er mwyn ffurfio’r llywodraeth unedig genedlaethol honno.”

Ychwanegodd y byddai’n rhaid i unrhyw ymyrraeth filwrol gyd-fynd â chyfraith ryngwladol.