Mae pôl piniwn newydd yn awgrymu bod y gefnogaeth i’r SNP ar gynnydd a bod y Blaid Lafur ymhell y tu ôl iddyn nhw.
Fe allai’r SNP fod yn allweddol i ganlyniad terfynol yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.
Mae’r gefnogaeth i’r Blaid Lafur yn yr Alban wedi gostwng dau bwynt ers y pôl diwethaf ddechrau’r mis.
Mae 27% o Albanwyr wedi dweud y byddan nhw’n pleidleisio dros Lafur, tra bod y gefnogaeth i’r SNP i fyny triphwynt i 48%.
16% ddywedodd y bydden nhw’n pleidleisio dros y Ceidwadwyr, 4% dros y Democratiaid Rhyddfrydol, 3% dros UKIP a 2% dros y Blaid Werdd.
Roedd gan Lafur 41 o seddau ar ôl etholiad cyffredinol 2010, ond fe allai’r nifer ostwng i bump ar ôl Mai 7.
Fe allai nifer seddau’r SNP gynyddu o chwech i 53.
Dywedodd cyfarwyddwr ymgyrch yr SNP, Angus Robertson fod y canlyniadau’n “rhagor o dystiolaeth fod y momentwm yn yr ymgyrch yma’n sicr gyda’r SNP”.
“Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol ac fe fyddwn yn parhau i weithio mor galed ag y gallwn ni er mwyn ennill ymddiriedaeth pobol ar draws yr Alban.”