Mae cwymp eira a ddigwyddodd o ganlyniad i ddaeargryn yn Nepal, wedi lladd beth bynnag wyth o ddringwyr a thywyswyr ar lethrau mynydd ucha’r byd.
Mae nifer o bobol eraill wedi’u hanafu, ac mae nifer wedi’u cofrestru ar goll yn dilyn diwrnod o gryniadau ac ol-gryniadau.
Mae cyrff wyth o bobol wedi’u canfod. Dyw hi ddim yn glir eto o ba wledydd maen nhw’n hanu, wrth i’r ymdrechion i achub pobol rhag mwy o dirlithriadau gael eu disgrifio fel “anhrefn”.
Mae’r cyfryngau yn China wedi cadarnhau fod dringwr o’r wlad, ynghyd a dau dywysydd Sherpa ymysg y meirwon.